Neidio i'r prif gynnwys
Centre for Digital Public Services Wales (CDPS)  logo

Ymunwch â'n panel ymchwil

Beth am gofrestru i gael cyfle i wella gwasanaethau yn y sector cyhoeddus

Cymryd rhan mewn ymchwil i wella gwasanaethau yn y sector cyhoeddus 

Mae angen eich help ar y Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (DPSW) i wella gwefannau a gwasanaethau sefydliadau yn sector cyhoeddus Cymru.  
 Rydym yn helpu i ddylunio gwasanaethau trwy gynnal ymchwil gyda'r pobl sy'n eu defnyddio, i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.  

I wneud hyn, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n panel ymchwil. 
 

Ymunwch â'r panel ymchwil 

Mae ein panel ymchwil yn caniatáu i ni gysylltu â phobl yn gyflym ac yn hawdd ar gyfer astudiaethau ymchwil ac yn caniatáu i chi ddweud eich dweud ar sut caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynllunio yng Nghymru. 
 

Cymhwyster

I gofrestru ar gyfer y Panel Ymchwil a Chymorth, mae'n rhaid i chi:  

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn  
  • yn byw, yn gweithio neu'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn rheolaidd yng Nghymru  
  • yn barod i gymryd rhan mewn ymchwil gyda ni 
 
 Nid oes rhaid i chi allu fod yn hen law ar ddefnyddio cyfrifiaduron neu'r rhyngrwyd i ymuno. 
 

Gwybodaeth amdana chi 

Hoffem gael manylion demograffig (manylion fel eich oedran, hil neu grefydd) i'n helpu i gynnal ymchwil gynhwysol. Nid oes rhaid i chi rannu’r wybodaeth hon gyda ni. 
 

Cymryd rhan

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil sy'n berthnasol i chi. Gallwch bob amser wrthod gwahoddiad, a gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg. 

Os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil, bydd ein hymchwilwyr yn egluro manylion unrhyw ymchwil ymlaen llaw ac yn gofyn am eich caniatâd cyn eich bod yn cytuno i gymryd rhan. 

Yr hyn y byddwch yn ei wneud 

Efallai y byddwn yn gofyn i chi: 

  • gymryd rhan mewn cyfweliad  
  • dangos i ni sut rydych chi'n defnyddio rhan benodol o wefan  
  • profi a rhoi adborth ar ddyluniad neu syniad newydd 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y panel, 
(dewisol)
Ydych chi'n cytuno i ymuno â'n panel