Neidio i'r prif gynnwys
Centre for Digital Public Services Wales (CDPS)  logo

Cymryd rhan mewn ymchwil am asesiadau Gwasanaeth

Cymryd rhan mewn ymchwil am asesiadau Gwasanaeth

Diolch i chi am eich diddordeb yn ein helpu gyda'n hymchwil.

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i greu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr sy’n bodloni’r Safon Gwasanaeth Digidol.

Rydym yn gwneud ymchwil i ddeall yr hyn y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei wybod am asesiadau Gwasanaeth a sut y gallwn ddatblygu’r rhain orau i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd eich mewnwelediadau yn ein helpu i nodi ffyrdd y gallwn gefnogi sefydliadau i ddeall ac asesu'r sgiliau a'r galluoedd craidd sydd eu hangen arnynt i adeiladu gwell gwasanaethau cyhoeddus.


Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Drwy gwblhau'r arolwg byr hwn (a fydd yn cymryd dim mwy na 5 munud), rydych yn cytuno i'r CDPS gysylltu â chi ynghylch cymryd rhan mewn ymchwil ar y pwnc hwn. Nid yw cwblhau’r arolwg hwn yn gwarantu y cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil, ond os ydych yn ffit dda yn seiliedig ar eich ymatebion, byddwn yn estyn allan atoch drwy e-bost i drefnu sesiwn.

Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth benodol am eich oedran, rhyw, ethnigrwydd neu anableddau i sicrhau ein bod yn casglu adborth gan grŵp cynhwysol ac amrywiol o gyfranogwyr, ac i wneud yn siŵr bod ein sesiynau ymchwil yn hygyrch. Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon os yw'n well gennych beidio.

Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn gwbl wirfoddol, a gallwch optio allan unrhyw bryd.


Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyswllt â thrydydd partïon nac yn ei defnyddio at ddibenion marchnata.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech i ni ddileu eich manylion, cysylltwch â ni yn user.research@digitalpublicservices.gov.wales 

(yn ddelfrydol eich cyfeiriad e-bost gwaith ond gellir defnyddio cyfeiriadau e-bost personol hefyd)